Croeso i Sir y Fflint sy’n Falch o’r Mislif - Cwestiynau Cyffredin am Gynnyrch (click here for English version)
Yma yn Cheeky, rydym am i bawb GARU eu cynnyrch mislif newydd y mae modd eu hailddefnyddio. Mae rhestr o’n cwestiynau cyffredin isod, ond mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill neu os nad yw rhywbeth yn gweithio i chi. Mae’r tîm yma yn defnyddio’r cynnyrch eu hunain felly gallwch holi unrhyw beth! Rydym am i bawb fod yn hollol hapus gyda’u dillad isaf Cheeky a’r padiau.
- Sut i osod eich cwpan mislif
- Sut i dynnu eich cwpan mislif
- Sut i ddiheintio eich cwpan mislif
- Golchi dillad isaf mislif a phadiau i gynyddu amsugnedd
- Pa mor aml ddylech chi newid eich dillad isaf mislif
- Pa mor aml ddylech chi newid eich padiau mislif
- Sut i ddefnyddio cynnyrch mislif y gellir eu hailddefnyddio yn yr ysgol
- Cyfarwyddiadau golchi ar gyfer cynnyrch mislif y gellir eu hailddefnyddio
Gosod eich cwpan mislif
Os wnaethoch chi ddewis y pecyn cwpan mislif, neu os ydych chi’n meddwl am ddefnyddio cwpan mislif, mae’n ddewis gwych.
Gall cwpan mislif olygu dim gollwng, sy’n golygu mislif heb straen. Gall ddal cyfwerth â 3-4 o damponau a gellir ei gwisgo am hyd at 12 awr! Mae’n wych dros nos, ar ddiwrnodau ysgol/coleg ac mae’n arbennig pan fyddwch chi’n gwneud ymarfer corff, gan gynnwys nofio.
Gall fod yn anodd i ddechrau, edrych ar y gwpan fach silicon a meddwl sut ar y ddaear i’w rhoi yn y lle iawn er mwyn iddi weithio. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am eich cwpan ar gael yma a dyma fideo i ddangos sut i osod eich cwpan gyda chamau syml isod -
- Sicrhewch fod eich cwpan yn lân gyda dŵr cynnes
- Golchwch eich dwylo gyda dŵr sebon cynnes
- Ymlaciwch a gwnewch eich hun yn gyfforddus
- Plygwch y gwpan i un o’r 2 safle plygu rydym ni’n eu hargymell
- Gadewch i’r gwpan ehangu a ffurfio sêl yn y fagina
A dyna ni. Hyd at 12 awr o dawelwch meddwl.
Tynnu eich cwpan mislif
I ddechrau, ymlaciwch! Fel pan wnaethoch chi osod y gwpan, gwnewch eich hun yn gyfforddus naill ai’n sefyll neu’n eistedd/cyrcydu a sicrhewch fod eich dwylo yn lân.
- Teimlwch waelod y gwpan gyda’ch bys blaen a’ch bawd
- Gwasgwch waelod y gwpan i dorri’r sêl
- Tynnwch i lawr yn araf i dynnu’r gwpan
- Gwagiwch y cynnwys i mewn i’r toiled neu’r sinc
- Golchwch y gwpan yn drylwyr a’i rhoi yn ôl i mewn
Os byddwch chi’n cael trafferth, rhowch gynnig ar rai o’r rhain:
- Newidiwch safle
- Siglwch y coesyn neu waelod y gwpan
- Gwthiwch yr ymyl i mewn yn ofalus
- Tynnwch y gwpan yn y gawod, y bath neu dros y toiled
- Trowch y gwpan yn ofalus fel bod hanner yr ymyl yn dod allan yn gyntaf
- Defnyddiwch gyhyrau llawr y pelfis
- Ymlaciwch eich corff gymaint ag sy’n bosibl
- Cymerwch eich amser
Diheintio eich cwpan mislif
Mae eich pecyn cwpan mislif yn dod gyda chwpan ddiheintio i lanhau eich cwpan yn drylwyr ar ôl eich mislif.
Y ffordd orau i’w defnyddio yw yn y microdon ond gallwch roi eich cwpan yn y cynhwysydd wedyn llenwi’r gwpan symudol gyda dŵr a thabled diheintio.
Microdon
I ddefnyddio’r microdon i ddiheintio, rhowch eich cwpan mislif mewn cwpan ddiheintio a’i llenwi at ei hanner gyda dŵr. Mae’r gosodiadau lefel pŵer/watedd cywir yn dibynnu ar fodel eich microdon. Mae’n rhaid i’r dŵr fod yn ferwedig er mwyn i’r diheintio fod yn effeithiol. Os nad ydych chi’n siŵr, edrychwch ar lyfryn eich microdon.
Mae’r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn defnyddio lefel pŵer / watedd canolig am 3 - 5 munud. Ni ddylech selio caead y gwpan yn llwyr: neu ni fydd modd i’r stêm a gynhyrchir gan y dŵr berwedig ddianc.
Bydd y gwpan ddiheintio yn boeth iawn felly rydym yn argymell eich bod yn ei gadael yn y microdon i oeri a’i thynnu allan ar ôl ychydig o funudau. Neu defnyddiwch fenig popty.
Cadwch eich cwpan lân yn y bag gwlyb nes byddwch chi’n barod i’w defnyddio yn ystod eich mislif nesaf.
Golchi eich dillad isaf mislif a phadiau
Mae’n bwysig iawn golchi eich dillad isaf mislif a phadiau ymlaen llaw i gynyddu amsugnedd felly golchwch nhw ar 30 gradd cyn eu defnyddio.
Mae llawer o awgrymiadau isod am eu golchi pan fyddwch chi wedi eu defnyddio a’r prif beth i’w gofio yw PEIDIO â defnyddio hylif meddalu ffabrig oherwydd bydd hyn yn gorchuddio ffibrau’r dillad isaf/pad gan olygu na fyddant yn amsugno cystal.
Trowch eich dillad isaf tu chwith allan er mwyn eu sychu gan fod hyn yn cyflymu’r broses sychu, a sychwch nhw’n naturiol pan fo’n bosibl. Peidiwch â defnyddio peiriant sychu dillad a pheidiwch â’u rhoi ar wres uniongyrchol fel rheiddiadur oherwydd gall hyn ddifetha’r haen sy’n golygu nad ydynt yn gollwng.
Pa mor aml ddylwn i newid fy nillad isaf mislif?
Mae hyn yn dibynnu ar eich llif ac os mai dyma’r tro cyntaf i chi ddefnyddio cynnyrch mislif y gellir ei ailddefnyddio, efallai nad ydych chi’n ymwybodol o pa mor ysgafn neu drwm yw eich mislif.
Fel arfer, byddech chi’n eu newid nhw yn yr un modd ag y byddech chi’n newid cynnyrch mislif untro. Felly os yw eich mislif yn drwm ac y byddech chi newid pad neu dampon untro bob 3 awr, gwiriwch eich dillad isaf / pad bryd hynny hefyd.
Mae cymysgedd o ddillad isaf ar gyfer llif trwm a llif cymedrol yn y pecynnau. Ar ddiwrnod trwm, dewiswch y dillad isaf llif trwm oherwydd bod yr amsugnedd yn well. Ffordd wych o allu defnyddio’r dillad isaf am gyfnod hwy yw eu defnyddio gyda phad y gallwch ei newid yn hawdd os ydych chi yn yr ysgol neu’r coleg.
Ar gyfer diwrnod llif ysgafnach, bydd y dillad isaf llif cymedrol yn gweithio’n dda. Mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu eu gwisgo nhw trwy’r dydd a’u newid wrth gyrraedd adref os ydych chi yn yr ysgol neu’r coleg.
Mae’r haenau’n galluogi’r gwaed i gael ei amsugno felly ni ddylech deimlo’n wlyb, ond os byddwch chi, mae’n arwydd ei bod hi’n amser newid.
Os byddwch chi yn yr ysgol neu’r coleg ac angen newid y dillad isaf, gallwch roi’r hen bâr yn y bag gwlyb a’u rinsio a’u golchi pan fyddwch chi’n cyrraedd adref.
Pa mor aml ddylwn i newid fy mhadiau mislif?
Mae hyn yn dibynnu ar eich llif ac os mai dyma’r tro cyntaf i chi ddefnyddio cynnyrch mislif y gellir ei ailddefnyddio, efallai nad ydych chi’n ymwybodol o pa mor ysgafn neu drwm yw eich mislif.
Os ydych chi wedi arfer defnyddio padiau untro, mae’r padiau y gellir eu hailddefnyddio yn gweithio yn yr un ffordd. Mae’r padiau yn y pecynnau wedi’u creu o fambŵ ac maen nhw’n amsugnol iawn. Os byddwch chi’n defnyddio pad mawr ar gyfer llif trwm fel arfer, dewiswch y pad mwyaf yn y pecyn a’i newid fel y byddech gyda phad untro. Os byddwch chi’n ei newid yn yr ysgol neu’r coleg, gallwch ei blygu yn ei hanner a’i gau gyda’r botwm wedyn ei roi yn y bag gwlyb i’w rinsio a’i olchi pan fyddwch chi’n cyrraedd adref.
Sut i ddefnyddio cynnyrch mislif y gellir eu hailddefnyddio yn yr ysgol
Mae’n hawdd defnyddio cynnyrch mislif y gellir eu hailddefnyddio yn yr ysgol ac rydym yn argymell eich bod yn defnyddio dillad isaf gyda phad er mwyn iddyn nhw bara’n hirach.
Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd newid yn llwyr mewn toiled ysgol felly os ydych chi ar ddiwrnod llif trwm, defnyddiwch bad y gellir ei ailddefnyddio yn eich dillad isaf mislif gan ei fod yn hawdd i’w dynnu allan yn ystod amser egwyl neu amser cinio heb orfod tynnu eich teits/trowsus. Yna gallwch roi pad arall i mewn, neu efallai bydd eich llif yn iawn gyda dim ond y dillad isaf am weddill y diwrnod nes i chi gyrraedd adref.
Gallwch blygu’r padiau yn eu hanner a’u cau gyda’r botwm wedyn eu rhoi yn y bag gwlyb. Yn yr un modd, os byddwch chi’n newid y dillad isaf, gallwch eu plygu a’u rhoi yn y bag i’w rinsio a’u golchi pan fyddwch chi’n cyrraedd adref.
Efallai bydd gan eich ysgol badiau untro a phadiau y gellir eu hailddefnyddio, felly os oes angen mwy arnoch, ewch i Sir y Fflint sy’n Falch o’r Mislif
Sut i olchi a gofalu am eich cynnyrch mislif y gellir eu hailddefnyddio
1. Dylid eu rinsio a’u socian neu eu golchi o fewn 24 awr
Rydym yn argymell eich bod yn rinsio eich dillad isaf a’ch padiau ar ôl eu gwisgo, neu eu socian mewn dŵr OER dros nos. Os na fyddwch chi’n eu rinsio neu eu socian, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu golchi o fewn 24 awr o’u gwisgo.
Rydym yn tueddu i dynnu ein padiau neu ddillad isaf a’u rhoi dan y tap dŵr oer a’u sgrwbio’n dda gyda sebon, sy’n rhoi boddhad MAWR. Yna gallwch eu storio mewn bag gwlyb neu fasged dillad budr. Os oes unrhyw staeniau ar ôl, rydym ni’n eu rhoi mewn bwced fach gyda dŵr oer a sgŵp o gynnyrch codi staen Oxi, sy’n eco-gyfeillgar ac mae’n gweithio! Peidiwch â’u gadael i socian am fwy na 12 awr oherwydd gall hyn ddechrau dirywio’r defnydd.
Neu, os ydych chi ar fin golchi dillad, gallwch roi ychydig o hylif codi staen arnynt a’u rhoi yn syth i mewn i’r peiriant golchi.
2. Dylid eu golchi ar dymheredd isel neu oer, 30℃ neu is
Bydd rhoi ychydig o hylif neu gynnyrch codi staen yn y peiriant yn helpu i dynnu unrhyw staen oddi ar eich dillad isaf a’ch padiau. A golchwch nhw ar dymheredd isel, dim mwy na 30℃!
Mae’n rhaid golchi staeniau gwaed ar dymheredd y corff neu is, bydd golchi ar dymheredd o 40℃ yn golygu na fydd modd glanhau’r staen! Mae hyn oherwydd mai staen protein yw gwaed (meddyliwch am wy) ac mae cynhesu protein yn ei ‘galedu’, yn union fel sgramblo wy. Os byddwch chi’n eu golchi ar dymheredd o 40℃, nid yw’n ddiwedd y byd, bydd y padiau neu ddillad isaf yn dal i weithio’n iawn, ond fyddan nhw ddim yn edrych mor ddel. Peidiwch â defnyddio hylif meddalu ffabrig oherwydd bydd yn gorchuddio ffibrau’r padiau neu ddillad isaf gan olygu na fyddant yn amsugno.
Ym Mhencadlys Cheeky, rydym yn defnyddio powdr bio a hylif codi staen Oxy. Roeddem ni’n arfer defnyddio mwy o gynnyrch ‘eco’ ond i ni, doedd hyn ddim yn gwneud synnwyr oherwydd doedden nhw ddim yn gweithio cystal â phowdr golchi go iawn, ac roedd yn lleihau oes ein dillad. A phan fo gennych chi 4 o blant a allai basio eu dillad i lawr i’r nesaf, mae hynny’n bwysig iawn! Mae’n bwysig defnyddio gosodiad golchi hyd priodol hefyd. Ni fydd gosodiad cyflym / eco fel fyddech chi’n ei ddefnyddio ar gyfer dillad sydd angen eu golchi’n gyflym yn gweithio ar eitemau wedi’u staenio. Byddem ni’n argymell gosodiad sy’n para o leiaf awr er mwyn golchi eich padiau a dillad isaf yn lân.
3. Gadewch iddynt sychu’n naturiol
PEIDIWCH Â RHOI EICH CYNNYRCH MISLIF CHEEKY® YN Y PEIRIANT SYCHU DILLAD
Mae’n hynod bwysig nad ydych yn rhoi eich padiau a dillad isaf Cheeky mewn peiriant sychu dillad, rydym hefyd yn argymell nad ydych yn eu rhoi ar ffynhonnell wres fel rheiddiadur chwaith. Os yw’n rhy boeth i roi eich llaw arno, mae’n rhy boeth iddyn nhw.
PEIDIWCH Â DEFNYDDIO CANNYDD ar eich cynnyrch mislif Cheeky®
Rŵan, beth am symud at awgrymiadau eraill:
A allaf i olchi dillad isaf amsugno a phadiau y gellir eu hailddefnyddio gydag eitemau eraill neu a oes angen eu golchi ar wahân?
Y newyddion da yw y gallwch roi eich dillad isaf mislif neu badiau y gellir eu hailddefnyddio i mewn i’w golchi gyda beth bynnag arall sydd gennych i’w golchi, a golchi popeth ar dymheredd o 30℃. Nid oes angen eu golchi ar wahân, sy’n wych. Os byddwch chi’n cymryd bod eich cynnyrch mislif yn dod i hanner kg o olchi bob mis, dros flwyddyn, dim ond un golch ‘cyfartalog’ ychwanegol yw hyn, felly ychydig iawn o effaith amgylcheddol sydd! A pheidiwch â phoeni, ni fydd unrhyw waed wedi trosglwyddo ar grysau ac ati eich gŵr wrth eu golchi! Ond cofiwch beidio defnyddio hylif meddalu ffabrig!
Welcome to the Flintshire Period Proud - Product FAQ's English
Here at Cheeky we want everyone to LOVE their new reusable period products. We've got a list of our most asked questions below, but if you have any other questions or something isn't working for you, please do get in touch! The team here all use the products themselves and nothing is TMI! We want everyone to be 100% happy with their Cheeky pants & pads.
- How to insert your menstrual cup
- How to remove your menstrual cup
- How to sterilise your menstrual cup
- Prewashing period pants and pads to increase absorbency
- How often to change your period pants
- How often to change period pads
- How to use reusable period products at school
- Washing instructions for reusable period products
Inserting your menstrual cup
If you opted for the menstrual cup kit or are thinking about using a menstrual cup, it's a great option.
A menstrual cup can mean no leaks and therefore a stress free period. It can hold the equivalent of 3-4 tampons and can be worn for up to 12 hours! It's brilliant for overnight, school/college days and fab for when you are exercising, including swimming.
It can be daunting to begin with, looking at this little silicone cup wondering how on earth to get it into the right place to do its thing. All the info you need on your cup is here and here's is a Video on how to insert your cup with some simple steps below:
- Make sure your cup is clean with warm water
- Wash your hands using warm soapy water
- Relax and get into a position you feel comfortable
- Fold the cup into either one of the 2 fold positions we recommend
- Allow the cup to expand and form a seal in the vagina
- You are good to go. Up to 12 hours of protection.
Removing your menstrual cup
First of all, relax! As when you put the cup in, get into a comfy position either standing or sitting/squatting and make sure your hands are clean.
- Insert your index and thumb to feel the base of the cup
- Pinch the base to break the seal
- Slowly pull down to remove the cup
- Empty the contents into the toilet or sink
- Wash the cup thoroughly and reinsert it
If you're having trouble, you can try these tips:
- Change positions
- Gently wiggle the stem or base
- Gently push the rim in
- Remove the cup in the shower, bath, or over the toilet
- Gently tilt the cup so one half of the rim comes out first
- Activate your pelvic floor muscles
- Relax your body as much as possible
- Take your time
Sterilising your menstrual cup
Your Menstrual cup kit comes with a sterilising cup for thoroughly cleaning your cup after your period.
The best way to use this is in the microwave but you can also place your cup inside the container and then fill the travel cup with water and a sterilising tablet
Microwave
To use the microwave for sterilisation place your menstrual cup into sterilising cup and fill it up part way with water. The correct power level/wattage settings depend on your microwave model. The water must be boiling for the disinfection to be effective. If in doubt, please consider your microwave manual.
Most customers use medium power level / wattage for 3 - 5 minutes. The cup's lid must not be completely sealed: otherwise the steam produced by the boiling water cannot escape.
The sterilising cup will be very hot so we recommend that you leave it in the microwave to cool down and take it out after a few minutes. Otherwise, please use oven gloves.
Store your clean cup in the wetbag until you are ready to use it on your next period.
Prewashing your period pants and pads
It's really important to prewashing your reusable pants and pads to increase their absorbency so give them a quick wash on 30 degrees before you use them.
We have lots of hints and tips below on washing them once you have used them and the main thing to remember is to AVOID fabric softener in the wash as this will coat the fibres of the pants/pad and therefore limit their absorbency.
To dry your pants turn them inside out as this speeds up the drying process and air dry them where possible. Do not use a tumble dryer and do not put them on direct heat such as a radiator as this can ruin the leak proof layer.
How often should I change my period pants?
This depends on your flow and if this is your first time using reusable period protection you might not be aware of how light or heavy your periods are.
The rule of thumb is that you would change them as you would change disposable period protection. So if you have a heavy period and you would change a disposable pad or tampon every 3 hours, then check your pants / pad then too.
The pants packs have a mix of heavy flow and moderate flow pants. On a heavy day, opt for the heavy flow pants as these have extra absorbency. A great way to get longer with the pants is to team them with a pad that you can change easily if you are at school or college.
For a lighter flow day, the moderate flow pants will work well. You might be able to wear them all day and change them when you get home if you are at school or college.
The layers enable the blood to be drawn away so you shouldn't feel wet but if you do, it's an indication that it is time to change.
If you are at school or college and need to change the pants, you can put the used pair in the wetbag and you can then rinse and wash when you get home.
How often should I change my period pads
This depends on your flow and if this is your first time using reusable period protection you might not be aware of how light or heavy your periods are.
If you are used to using disposable pads then the reusable pads work in the same way. The pads in the kits we are offering are bamboo and really absorbent. If you usually use a big pad for a heavy flow, opt for the bigger pad in the pack and change it as you would a disposable pad. If you are changing it at school or college, you can fold it in on itself and popper it closed and put in the wetbag to rinse and wash when you get home.
Using reusable period products at school
It's easy to use reusable period protection at school and we recommend teaming pants with a pad to get longer out of them.
We know it can be tricky doing a full change in a school toilet so if you have a heavy flow day, use a reusable pad in your period pants and this is easy to take out at break or lunch time without having to take off tights/trousers. You can then either pop another pad in, or, your flow might be ok in just the period pants for the rest of the day until you get home.
You can fold the used pads in on themselves and popper them closed and put them in the wetbag. Similarly, if you do change the pants, these can be folded up and out in the bag to rinse and wash when you get home.
Your school might have provisions for disposable and reusable pads so if you needed additional protection, check out....
How to wash and care for your reusable period protection
1. Rinse & Soak or Wash within 24 hours
We recommend that you rinse your pants and pads after wearing, or soak in COLD water overnight. If you don’t rinse or soak, make sure and wash within 24 hours of wearing.
We tend to remove our pad or pants and run under the cold tap and give it a good scrub with some soap which is HUGELY satisfying. You can then store them in a wetbag or wash basket. If there are any lingering stains, we pop ours in this mini strucket with some cold water and a scoop of some Oxi type oxygen stain remover which is eco-friendly and works! Don't leave them soaking for more than 12 hrs as this can start to degrade the material.
Alternatively, if you've got a wash going on shortly, you can give them a squirt of liquid stain remover and pop them straight into the washing machine.
2. Wash in a cool or cold wash, 30℃ or lower
A squirt of stain remover or scoop added to the wash will really help your pants and pads come up stain free. Plus wash on a cool wash, max 30c!
Bloodstains must be washed out at body temperature or below, washing at 40c will 'set' the stain, never to be removed! That's because blood is a protein stain (think of an egg) and applying heat to a protein 'sets' it, just like scrambling an egg. If you wash at 40℃, it's not the end of the world, the pads or period pants will still work perfectly, they just won't look as pretty as they did at first. Avoid fabric softener as it will coat the fibres of the pads or pants and stop them absorbing.
At Cheeky HQ we use a bio powder and Oxy type stain remover. We used to use more 'eco' products but for us, we found that it was a false eco economy as they just didn't get as clean as using proper washing powder and hence reducing the longevity of our clothing. And when you've got 4 kids who could potentially hand clothing down to one another, that's really important! It's also important to use a decent length wash cycle. Rapid / eco wash cycles which you may use for clothing which just needs a freshen up won't work for stained items. We would advise a wash cycle of at least an hour to get your pads and pants properly clean.
3. Leave to air dry
DO NOT TUMBLE DRY YOUR CHEEKY® PERIOD PROTECTION
It's super important that you don't tumble dry your Cheeky pads and pants, we also suggest avoiding putting them on direct heat sources like a radiator. If it's too hot to hold your hand on, it's too hot for them.
DO NOT USE BLEACH on your Cheeky® period protection
Now we've got that out of our system, we can move on to the other tips:
Can I wash absorbent pants and cloth sanitary pads with other items or do they need to be washed by themselves?
The good news is that you can just bung your period pants or cloth sanitary pads into the wash with whatever else you have got to wash and wash it all at 30℃. There's no need at all to wash them separately which is fantastic news. If you assume that your period protection adds up to half a kg of washing a month, over the course of a year, this is just one more 'average' washload, so very little environmental impact! And don't worry, your husbands shirts etc won't be contaminated by a tiny bit of blood in the wash! Just avoid fabric softener!