Cheeky logo

Flintshire Period Scheme

Croeso i Sir y Fflint sy’n Falch o’r Mislif - Pecynnau Cartref (click here for English version)

23/12: Nodwch os gwelwch yn dda, yn sgil Gwyliau’r Nadolig, ni fydd unrhyw archebion Sir y Fflint
sy’n Falch o’r Mislif yn cael eu prosesu tan y Flwyddyn Newydd.   Dylech ganiatáu 3 wythnos i’ch
nwyddau gyrraedd dros y cyfnod hwn.   Diolch i chi am eich dealltwriaeth.

Cynnyrch mislif y gellir eu hailddefnyddio yn syth i’ch drws!

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint yn cydweithio gyda Cheeky Pants, cwmni cynnyrch mislif sy’n seiliedig yn y DU, i hyrwyddo urddas mislif a danfon cynnyrch y gellir eu hailddefnyddio yn rhad ac am ddim i’ch cartref!  Mae hyn yn ychwanegol i’r cynnyrch mislif sydd yn cael ei ddarparu ym mhob ysgol ac mewn lleoliadau cymunedol amrywiol.

Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030 felly rydym eisiau gallu eich cefnogi chi i ddefnyddio cynnyrch y gellir eu hailddefnyddio ac sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd. Mae’n hawdd gwneud cais a gallwch ddefnyddio pecyn cynnyrch mislif y mae modd eu hailddefnyddio i reoli eich mislif - yn syth i’ch drws!

 

Pwy all wneud cais am Gynllun Danfon i’r Cartref Sir y Fflint sy’n Falch o’r Mislif?

  • Pobl ifanc sy’n mynd i’r ysgol yn Sir y Fflint ar hyn o bryd
  • Pobl ifanc rhwng 8 a 18 oed (os ydych chi’n hŷn nag 18 oed, cliciwch yma i gael mynediad at gynnyrch mislif)
  • Dim ond un bwndel fesul plentyn, y flwyddyn
 

Sut i wneud cais am Gynllun Danfon i’r Cartref Sir y Fflint sy’n Falch o’r Mislif

Dewiswch pa becyn cynnyrch mislif y gellir eu hailddefnyddio yr hoffech ei gael o’r 4 isod.

Ar y dudalen manylion cynnyrch nodwch:

  • Dyddiad geni'r myfyriwr
  • Enw’r ysgol
  • Grŵp blwyddyn y myfyriwr

Ticiwch y blwch i gadarnhau eich bod wedi darllen a derbyn telerau polisi preifatrwydd Pecynnau Cartref Sir y Fflint.

Ychwanegwch y cynnyrch i’r fasged a dewiswch Danfon i’r Cartref Sir y Fflint fel dewis dosbarthu, yna nodwch fanylion eich cyfeiriad dosbarthu gan sicrhau bod enw’r disgybl ysgol wedi’i nodi a bod cyfeiriad e-bost addas wedi’i nodi i’w ddefnyddio er mwyn dilysu.

Byddwch yn cael neges e-bost gan Cheeky i gadarnhau ein bod wedi cael eich archeb.

Bydd y Cyngor yn dilysu eich cais (caniatewch 7 diwrnod / 14 diwrnod i ddilysu)

Ar ôl ei ddilysu, byddwn yn danfon eich cynnyrch mislif y gellir eu hailddefnyddio o fewn diwrnod neu ddau a byddwn yn rhoi gwybod i chi trwy e-bost.

Bwndeli Danfon Cynnyrch Mislif i’r Cartref Sir y Fflint (Dewiswch UN yn unig)

Mae gan bobl ifanc (neu eu gofalwyr ar eu rhan) ddewis o un o’r canlynol:

  • Cwpan mislif y gellir ei hailddefnyddio gyda photyn diheintio a bag gwlyb
  • Pecyn padiau y gellir eu hailddefnyddio sy’n cynnwys PUMP pad bambŵ y gellir eu hailddefnyddio (llif cymysg, 2 leiniwr a 3 phad diwrnod) a bag gwlyb
  • Pecyn dillad isaf y gellir eu hailddefnyddio sy’n cynnwys PUMP pâr o ddillad isaf mislif (3 llif rheolaidd a 2 llif trwm) a bag gwlyb.  Dewiswch bâr o ddillad isaf mislif isel neu ganolig.

 

Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Pecynnau Cartref

Mae Cyngor Sir y Fflint angen i Cheeky Baby Products Ltd, sy’n masnachu fel Cheeky Pants, gael enw eich ysgol, grŵp blwyddyn a dyddiad geni yn ychwanegol i’r wybodaeth bersonol y maent yn ei chasglu fel gofyniad sylfaenol wrth brosesu’r archeb.

Bydd y wybodaeth wedyn yn cael ei rhannu gyda’r Cyngor. Prosesir y data o dan Fuddiannau Dilys Cyngor Sir y Fflint er mwyn cadarnhau eich bod wedi cofrestru mewn ysgol yn Sir y Fflint ac i ddatrys unrhyw anghydfod gydag archebion. Bydd hyn yn galluogi Cheeky Baby Products Ltd i roi cyflenwad o gynnyrch mislif o’ch dewis i chi a sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru’n cael ei ddyrannu’n briodol.

Unwaith bydd y prosiect wedi’i gwblhau byddwch yn cael eich gwahodd drwy e-bost i lenwi arolwg dienw. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich gwybodaeth am 3 mis wedi i’r prosiect ddod i ben (Mehefin 2024), ac ni fydd yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol ac am eich hawliau chi, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan. Gallwch weld polisi preifatrwydd Cheeky Baby Products Ltd yma.

Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion eraill sy’n ymwneud â’r cynllun hwn at:

Swyddog Balch o’r Mislif
Tŷ Dewi Sant,
Ewlo,
Sir y Fflint CH5 3FF

E bost: periodproud@flintshire.gov.uk

 

Welcome to the Period Proud Flintshire - Home Packs

23/12: Please note that due to Christmas Holidays, no Period Proud Flintshire orders will be
processed until the New Year.  Please allow 3 weeks for delivery at this point.  Thanks for your
understanding.

Reusable period products straight to your door!

Funded by the Welsh Government, Flintshire County Council has teamed up with UK-based period product company Cheeky Pants, to promote period dignity and deliver free, reusable period products right to your door! This is in addition to the period products already available in all schools and various community locations.

As a Council we are committed to being Carbon Neutral by 2030 so we want to be able to support you to use reusable and environmentally-friendly products. It's easy to apply and you can choose a reusable period products pack to manage your period - delivered straight to your door!

Who can apply for the Flintshire Period Proud Home Delivery Scheme?

  • School attendees currently attending school in Flintshire County
  • Aged between 8 and 18 (If you are over 18, please click here to access period products)
  • Only one bundle per child, per annum

How to apply for the Flintshire Period Proud Home Delivery Scheme

  • Choose which ONE reusable period kit you'd like from the 4 below
  • On the product details page, please enter:
  • Add the product to basket and select Flintshire Home Delivery as your shipping option and then checkout using your home delivery details, ensuring that the name of the school pupil is used for delivery details and a suitable email contact address that can be used for verification
  • You will receive an email from Cheeky, confirming that we have received your order
  • The council will verify your order application (please allow 7 days / 14 days for verification)
  • Once verified, we will dispatch your reusable period products within a few days and will let you know via email.

Flintshire Period Home Delivery Bundles (Choose ONE only)

Young people (or their carers on their behalf) have the option to select ONE of either:

  • A reusable period cup with sterilisation pot & wet bag

  • A reusable pad kit containing FIVE reusable bamboo sanitary pads (mixed flow, 2 liners and 3 day pads) plus a wet bag

  • A reusable pants kit containing FIVE period pants (3 regular and 2 heavy flow) plus a wet bag.  Choose from low rise or mid rise cotton period pants.

Flintshire County Council Privacy Notice for Home Packs


Flintshire County Council require the name of your school, year group and date of birth to be collected by Cheeky Baby Products Ltd t/a Cheeky Pants, in addition to the personal information they collect as standard when processing this order.

The information will then be shared with the Council. This data will be processed under Flintshire County Council’s Legitimate Interests to confirm that you are registered at a Flintshire school and resolve any order disputes. This will enable Cheeky Baby Products Ltd to issue you with your chosen supply of period products and ensure Welsh Government funding is allocated appropriately.

You will also be invited by email to complete an anonymous survey once the project is completed. Flintshire County Council will retain your information for 3 months after the end of the project (June 2024) and will not share your data with any other organisation.

For further information about how Flintshire County Council processes personal data and your rights please see our privacy notice on our website here. View Cheeky Baby Products Ltd Privacy policy here.

If you feel that Flintshire County Council has mishandled your personal data at any time you can make a complaint to the Information Commissioners Office by visiting their website or by calling their helpline on 0303 123 1113.

Any other queries or complaints in relation to this scheme should be referred to:

Period Proud Officer,
Ty Dewi Sant,
Ewloe,
Flintshire
CH5 3FF

Email: periodproud@flintshire.gov.uk